BANDIAU CYMRAEG

Ar gyfer Priodasau a Phartïon


HYPERSONIC

O hen glasuron i anthemau modern, mae HYPERSONIC yn siwr o ddod a'r parti hefo nhw i'ch digwyddiad neu diwrnod mawr.
Grwp o gerddorion brwdfrydig a hynod brofiadol sy'n arbennigo mewn cerddoriaeth Indie, Roc a Phop.

COASTLINE

Mae COASTLINE yn cynnwys cantores pwerus a phrofiadol a rhai o gerddorion mwyaf addawol Gogledd Cymru.
Mae’r triawd yma yn berffaith ar gyfer unrhyw ddigwyddiad sy’n chwilio am berfformiad hudolus.

DSC_9608.jpg

THE 1965

Os ydych yn chwilio am act arbennig iawn ar gyfer eich priodas neu unrhyw ddigwyddiad arall, THE 1965 yw’r band pennaf yng ngogledd Cymru.
Cantorion proffesiynol ty hwnt sydd â phrofiadau yn perfformio ar draws y byd.

DSC_2817.jpg

SOUND CITY

Band profiadol a bywiog sydd wedi dod yn enw cyfarwydd o amgylch Gogledd Cymru. Mae eu perfformiadau yn rhai i’w cofio! Mae gan SOUND CITY set eang sy’n cynnwys amrywiaeth mawr o gerddoriaeth Cymraeg.

THE SWING

Gadewch i'r pedwarawd soffisdigedig a swynol yma eich tywys ar daith drwy glasuron Swing, Pop, Roc a Rol. Byddant yn siwr o'ch cadw ar eich traed yn dawnsio tan yr oriau mân.

THE FUSE

Mae THE FUSE yn fand ffrwydrol a brwdfrydig. Maent wedi bod yn perfformio a thrafeilio yn diddanu trigolion Gogledd Cymru am flynyddoedd.


UNAWDWYR


PIANO

SACSOFFON


 LLINYNNAU


Pedwarawd Llinynnol


BRYNAFON

Pedwarawd proffesiynol sydd yn cynnig amrywiaeth o gerddoriaeth sy'n addas ar gyfer pob achlysur, gan weithio gyda chyplau a chleientiaid i gynnig perfformiad personol.

ELIN


Unawdydd - Cello

Mae Elin yn berfformwraig sy'n cynnig amrywiaeth o gerddoriaeth, gan weithio'n agos gyda chi i ddarparu repertoire arbenigol sy'n addas ar gyfer eich digwyddiad.

Pedwarawd Llinynnol


LOUNGE

Mae Pedwarawd Llinynnol Lounge ar gael ar gyfer pob math o ddigwyddiad, gan gynnwys priodasau, achlysuron arbennig, digwyddiadau ffurfiol a digwyddiadau corfforaethol.

MARIE


Unawdydd - Cello

Marie yw’r unawdydd perffaith ar gyfer eich priodas - Mae hi’n gweithio'n agos gyda chi i greu’r naws delfrydol ar gyfer unrhyw ddigwyddiad.


 DJ


PECYN AUR

DJ o’r safon uchaf gyda systemau sain a goleuadau arbennig - Yr opsiwn perffaith i ddod a’ch parti i’r lefel nesaf!

PECYN ARIAN

DJ professiynol, system sain a goleuadau o safon uchel, ac unrhyw ganeuon rydych chi eisiau!

DJ & Sacsoffon

Mae DJ a Sacsoffon wedi dod yn opsiwn poblogaidd iawn yn y blynyddoedd diweddar, a mae’n amlwg pam!

Dyma’r cyfuniad gorau o gerddoriaeth fyw ac adloniant DJ - Ar gael ar gyfer unrhyw math o ddigwyddiad gyda nifer o opsiynau ar gael.