SOUND CITY
Band egniol a phrofiadol yw Sound City, sy’n barod i chwarae’r caneuon mwyaf poblogaidd o bob degawd.
O hen glasuron roc a rol y 50au a’r 60au, i hits Indie, Britpop a Soul, a chasgliad enfawr o glasuron Cymraeg. Os ydych yn chwilio am fand ‘cwl’ i fynd a’ch party i’r lefel nesaf, mae Sound City yn siwr o wneud.
Mae eu profiadau o fewn y band yn cynnwys chwara gigs yn Glastonbury, SXSW, Focus Wales, a gigs gyda BBC Radio 2.
Mae’r pedwarad talentog yma yn cynnig perfformiad llawn egni i wneud yn siwr bod eich gwesteion yn gofyn am fwy!
+ Lein up mwy, setiau acwstig, a DJ ar gael.
Crynodeb Playlist
I Feel Good - James Brown
I Got My Mind Set on You - George Harrison
I Want to Break Free - Queen
Johnny B Goode - Chuck Berry
Jumping Jack Flash - Rolling Stones
Keep on Moving - Five
Last Nite - The Strokes
Mustang Sally - The Commitments
My Girl - The Temptations
Proud Mary - Tina Turner
Sex on Fire - Kings of Leon
Should I Stay or Should I Go - The Clash
Summer of 69 - Bryan Adams
Superstition - Stevie Wonder
Sweet Home Alabama - Lynyrd Skynyrd
Take Me to the River - The Commitments
Twist and Shout - Beatles
Valerie - Amy Winehouse
Venus - Shocking Blue
Whole Lot of Shaking - Jerry lee
…a mwy!
Cymraeg
Brawd Houdini - Meic Stephens
Cymru, Lloegr a Llanrwst - Y Cyrff
Dim Mynadd - Bryn Fôn
Drwy Dy Lygid Di - Yws Gwynedd
Pishyn - Edward H Dafis
Rhedeg i Paris - Yr Anrhefn
Trons dy Dad - Gwibdaith Hen Fran
Tŷ Ar Y Mynydd - Maharishi
Saesneg
500 Miles - The Proclaimers
Alright Now - Free
Burning Love - Elvis
Caroline - Status Quo
Dancing in the Moonlight - Toploader
Dock of the Bay - Otis Redding
Don’t Look Back in Anger - Oasis
Falsom Prison Blues - Johnny Cash
Get it On - T.Rex
Great Balls of Fire - Jerry Lee Lewis
Happy - Pharrell
Opsiynau Archebu
Gwasanaeth DJ am ddim!
Mae pob un o’n hactau yn dod gyda gwasanaeth DJ am ddim sydd yn golygu ni fyddych angen poeni am unrhyw wactod rhwng y gerddoriaeth byw! Rydym hefyd yn cynnig opsiwn ‘Manned Playlist’ os fysech yn hoffi gwneud ceisiadau ar y noson.
Dawns Gyntaf Byw!
Oes gennych gan arbennig bysech yn hoffi ei glywed wedi ei berfformio yn fyw fel dawns gyntaf? Mae pob un o’n hactau yn cynnig opsiwn Dawns Gyntaf Byw.
Unrhyw Adeg o’r Diwrnod!
Sound City yw’r band perffaith ar gyfer adloniant nos, ond oeddech yn gwybod bod Geth a Nathan ar gael i’w bwcio fel deuawd piano/gitâr ar gyfer Seremonïau a Derbynfeydd? Maen nhw hefyd ar gael fel unawdwyr!
Gwnewch o’n Fwy!
Er bod Sound City yn cynnig profiad band lawn, beth am ychwanegu un o’n hunawdwyr talentog i greu profiad hollol unigryw? Mae ein rhwydwaith eang o gerddorion yn ein galluogi i ffeindio'r perfformwyr perffaith ar gyfer unrhyw achlysur.
Offer ac Oriau Ychwanegol
Mae pob un o’n hactau yn dod gyda system PA a Goleuo llawn ar gyfer pob math o leoliad, yn cynnwys marquee a thipi. Os bysech yn hoffi ychwanegu mwy o oleuadau neu lwyfan – cysylltwch â ni! Mae ein hactau hefyd yn cynnig opsiwn ar gyfer Oriau Ychwanegol os nad ydych eisiau’r parti i orffen!
Cysylltwch â Ni!
Mae pob un digwyddiad yn arbennig ac yn wahanol yn ei ffordd. Cysylltwch â ni i weld sut fedrith ein hopsiynau adloniant fod yn berffaith ar eich cyfer.
Lleoliad
Mae’r band wedi’w lleoli ar draws Gogledd Cymru, ond maent yn chwarae ledled y DU yn aml ac yn hapus i drafeilio.